I sylw pawb sy’n hoffi comedi! Mae Paul Smith yn ôl ac yn well nag erioed yn ei daith ddiweddaraf, ‘Pablo’.
Byddwch yn barod i brofi comedi hynod ddoniol, a fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel, sy’n nodweddiadol o Smith. Dyma daith fwyaf a doniolaf Paul Smith hyd yma – byddwch yn chwerthin yn groch ar bob jôc. Mae’r sioe’n cynnwys cymysgedd o’i ryngweithio nodweddiadol â’r gynulleidfa a storïau gwir digrif iawn o’i fywyd pob dydd.
Gellwch ddisgwyl chwerthin afreolus o’r dechrau i’r diwedd, ac ni fyddwch eisiau colli munud.