Only Fools and Horses
-

Only Fools and Horses

-
Book now

Mae’r Trotters yn ôl ac yn dod i’ch bro chi!  Sioe boblogaidd Only Fools and Horses The Musical – yn syth wedi cyfnod anhygoel o bedair blynedd yn West End Llundain, lle gwerthwyd pob tocyn sy’n cynnwys y cymeriadau Del Boy, Rodney, Grandad, Cassandra, Raquel, Boycie, Marlene, Trigger, Denzil a Mickey Pearce.

Yn seiliedig ar gyfres deledu chwedlonol John Sullivan, mae’r sioe gerdd glodfawr hon yn cynnwys deunydd arbennig o un o gyfresi teledu mwyaf llwyddiannus Prydain. Ysgrifennwyd y sgript a’r sgôr wreiddiol gan fab John, Jim Sullivan, a’r cawr o gomedïwr, Paul Whitehouse; felly paratowch i ddod i adnabod cnafon mwyaf hoffus Prydain unwaith eto, a phrofi’r clasur o gomedi yn fyw ar lwyfan drwy sgript gelfydd ac ugain o ganeuon doniol tu hwnt.

Mae Only Fools and Horses The Musical wedi derbyn canmoliaeth ddi-ri gan gefnogwyr a beirniaid fel ei gilydd yn dilyn eu perfformiadau ysgubol yn y West End:  Rhoddwyd sgôr o bum seren i’r sioe gan The Sun, a’i disgrifiodd fel “One Del of a show!”; neu yng ngeiriau’r Daily Mirror yn eu hadolygiad pum seren, “a treat for Trotter fans". Pedair seren gan The Sunday Times gyda’r sylw “Only Fools is a blast from our wide-boy past. A hearty stage adaptation of the 1980s BBC television comedy”. Pedair seren gan Evening Standard hefyd, a ddisgrifiodd y sioe fel “the unashamedly British night out. A jubilant lovely jubbly!”. “Raise a glass of Tittinger to Del Boy and Rodney as Only Fools and Horses storms the West End!” - Daily Mail.

Ymunwch â ni wrth i ni droi’r cloc yn ôl i’r cyffro diddiwedd yn Peckham.  Gyda’r iypis yn heidio i Lundain, mae cariad o’n cwmpas wrth i Del Boy ddechrau ar ei antur i ddod o hyd i’w enaid hoff cytûn, mae Rodney a Cassandra’n prysur baratoi ar gyfer eu priodas, ac mae hyd yn oed Trigger wedi llwyddo i gael dêt (gyda pherson!).  Yn y cyfamser, mae Boycie a Marlene yn rhoi cynnig arall ar fod yn rhieni, ac mae Grandad yn pwyso a mesur ei fywyd ac yn penderfynu ei bod yn hen bryd iddo fynd i’r afael â’i broblem peils.

Gyda chyfraniadau cerddorol gan y ddeuawd eiconig, Chas a Dave, y gân thema enwog fel na chlywsoch chi hi o’r blaen, cyfres o ganeuon newydd sbon llawn cymeriad a swyn cockney, rydych chi’n siŵr gael noson i’w chofio! Mae Only Fools and Horses The Musical yn ddathliad gwych i’r teulu cyfan o fywyd dosbarth gweithiol traddodiadol yn Llundain ym 1989 a’r dyheadau y mae bob un ohonom yn eu rhannu.

Peidiwch ag oedi – codwch y ffôn a phrynwch docyn ar gyfer noson allan wirioneddol ‘cushty’. Dim ond PLONCAR 42 carat fyddai’n colli’r sioe!

* Cast i’w gyhoeddi.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event