Sioe Paranormal rhif 1 y byd
Most Haunted yw’r gyfres ymchwilio i ddigwyddiadau paranormal gwreiddiol a’r mwyaf llwyddiannus ar draws y byd, ac mae’n arddangos ei sioe theatr iasol yn 2023/24.
Wedi’i gyflwyno gan Yvette Fielding, brenhines y byd paranormal, ynghyd â Karl Beattie a thîm Most Haunted, byddwch chi’n cael eich tywys ar daith mwyaf tywyll ac arswydus eich bywyd.
Bydd cynulleidfaoedd yn crynu yn eu seddi wrth i Yvette a’r tîm gyflwyno 10 DIGWYDDIAD MWYAF ARSWYDUS MOST HAUNTED gyda fideos nas gwelwyd o’r blaen o Gestyll, Tai Moethus, Ysbytai a Charchardai.
Bydd Most Haunted Live yn mynd â’r profiad theatraidd ymhellach wrth i aelodau’r gynulleidfa deithio’n ôl i’r Oes Fictoraidd o séance a byrddau ouija a chael eu gwahodd i gymryd rhan mewn archwiliad arswydus eu hunain.
Yn y sioe yma does neb yn saff ac “A wêl a gred”