MANIA: The Abba Tribute

MANIA: The Abba Tribute

Archebwch Nawr

Yn dod yn syth o West End Llundain mae MANIA, y sioe deyrnged ABBA fwyaf poblogaidd yn y byd.

Cyngerdd arbennig sy’n dathlu cerddoriaeth ABBA mewn ffordd barchus a phleserus, bydd y cynhyrchiad hwn yn atgyfodi atgofion o’r cyfnod pan oedd ABBA yn dominyddu’r tonfeddi.

Mae’n 40 mlynedd a mwy ers i ABBA ennill cystadleuaeth yr Eurovision Song Contest ac maen nhw wedi llenwi ein bywydau gyda cherddoriaeth ers hynny.

Eich cyfle chi nawr yw diolch iddyn nhw am y gerddoriaeth!

Bydd MANIA yn apelio at gefnogwyr ddoe a heddiw, a bydd yn noson i’w chofio. Os ydych chi’n chwilio am esgus i gael parti, hel atgofion neu gael eich diddanu, yna MANIA: sioe deyrnged ABBA yw’r sioe i chi!

Ewch i chwilio am eich esgidiau platfform, tynnwch y llwch oddi ar eich fflêrs, a dewch i ymuno â chlasuron fel “Mamma Mai”, “Voulez Vous”, “Dancing Queen”, “Winner Takes It All”, “Super Trouper” a llawer iawn mwy.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event