Mae Gweithdai Colur Ffab a Ffiaidd yn ôl! Nod y gweithdai hyn yw darparu amgylchedd hwyliog ac addysgol i blant archwilio byd colur effeithiau arbennig.
Un o uchafbwyntiau’r gweithdy yw’r sesiwn Ffiaidd, lle bydd plant yn dysgu sut i greu archollion ac anafiadau saethu ffug realistig. Dan arweiniad yr artist colur proffesiynol Zoe Ellen, bydd plant yn dysgu technegau defnyddio colur effeithiau arbennig i greu’r effeithiau erchyll hyn. (Peidiwch â phoeni, rieni – mi gewch chi ymuno hefyd!) Byddant yn dysgu am y gwahanol ddeunyddiau ac offer a ddefnyddir ar gyfer colur effeithiau arbennig, yn ogystal â’r broses o greu anafiadau realistig, gam wrth gam.
Yn ychwanegol i’r sesiwn ffiaidd, bydd y gweithdy arall hefyd yn cynnwys sesiwn golur gliter mewn arddull gŵyl. Bydd y plant yn cael y cyfle i arbrofi gyda cholur gliter lliwgar a disglair i greu edrychiad trawiadol a fyddai’n addas ar gyfer gŵyl. Byddant yn dysgu sut i roi colur gliter mewn ffordd ddiogel a chreadigol, gan ehangu eu dychymyg a’u sgiliau artistig.
Mae’r gweithdai Ffab a Ffiaidd hyn ar gyfer plant yn hwyl ac yn brofiad cyffrous, ond maent hefyd yn gyfle gwych i blant ddysgu am gelfyddyd colur ac effeithiau arbennig. Mae’n annog creadigrwydd, hunanfynegiant a rhoi sylw i fanylder. Drwy gymryd rhan yn y gweithdy hwn bydd plant yn cael gwybodaeth a sgiliau gwerthfawr y gallant eu defnyddio mewn amryw o ymdrechion creadigol.
Colur gyda Zoe Ellen
Ymunwch â’r artist colur llwyddiannus, Zoe Ellen, i ddysgu sut i ddefnyddio colur i greu briwiau a chreithiau (Ffiaidd) neu gliter a harddwch (Ffab). Mae llefydd yn eithaf prin ar gyfer sesiynau poblogaidd Zoe, felly archebwch le yn fuan.
Llefydd yn brin!
Sesiynau Ffiaidd
- Dydd Sadwrn a dydd Sul | 10.00–11.00, 13.30–14.30
- Ystafell Aberconwy
- 7 oed a hŷn
- £4
- Angen tocyn
Sesiynau Ffab
- Dydd Sadwrn a dydd Sul | 11.30–12.30, 15.00–16.00
- Ystafell Aberconwy
- 7 oed a hŷn
- £4
- Angen tocyn