Love Hurts – Power Ballads and Anthems

Love Hurts – Power Ballads and Anthems

Archebwch Nawr

Steve Steinman yn cyflwyno Love Hurts – Power Ballads and Anthems

Mae Steve Steinman, cynhyrchydd sioe uchel ei glod ac artist recordio sydd wedi cyrraedd brig y siartiau, yn cyflwyno cynhyrchiad newydd sbon – Love Hurts.   Yn enwog am ei sioeau Anything For Love – The Meat Loaf Story a Vampires Rock, bydd y sioe newydd hon yn cynnwys dros 25 o ganeuon serch epig a dorrodd lu o galonnau ac a siglodd y byd!

Ac yntau’n adnabyddus am ei gynyrchiadau enfawr, ni fydd y sioe yma’n eich siomi. Gyda set lwyfan, goleuadau a sŵn anhygoel, ynghyd â band byw o saith aelod a chast grymus o gantorion gwych, rydych yn siŵr o gael noson ardderchog yn canu nerth eich pen a rocio i’r anthemau a’r baledi grymus gorau erioed. 

Mae’n cynnwys caneuon gan Heart, Whitesnake, Poison, Cutting Crew, Boston, Foreigner, REO Speedwagon, Extreme a llawer mwy.  

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event