Gwefru Cerbydau Trydan

Gwefru Cerbydau Trydan yn Venue Cymru

Mae’r pwyntiau gwefru yn fath 22Kw AC. Pennir pŵer y gwefru gan y gwefrwr sydd yn eich cerbyd.  Bydd arnoch angen eich cebl gwefru eich hun â chysylltwr ‘Math 2’.

Dangosir y prisiau gwefru yn yr Ap.

Pan fyddwch wedi gwefru eich cerbyd, symudwch y cerbyd i’r mannau parcio safonol a Thalu ac Arddangos.

Mae cerbydau trydan sy’n cael eu parcio yn y mannau parcio hyn ond heb fod yn gwefru yn destun cyfyngiadau parcio fel sy’n cael eu harddangos ar yr arwyddion ger y peiriannau Talu ac Arddangos. 

Ystyriwch ddefnyddwyr cerbydau trydan eraill.

 

Defnyddio’r Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

  • Sganiwch y cod QR neu lawrlwytho/agor yr Ap “Tap Electric” ar eich dyfais clyfar.
  • Dewch o hyd i’r gwefrydd cywir ar yr ap (Chwith neu Dde)
  • Pygiwch eich cerbyd i’r gwefrydd â chysylltwr “Math 2”.
  • Pwyswch “Start Charging” ar yr ap.
  • Pwyswch “Stop Charging” ar yr ap pan fyddwch wedi gorffen.
  • Datglowch eich cerbyd a datgysylltu’r cebl o’ch cerbyd i ddechrau ac yna’r gwefrydd.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event