David Essex

David Essex

On sale Friday 3 Nov, 10am

Archebwch Nawr

Mae’r canwr, cyfansoddwr ac actor byd-enwog, David Essex, wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn mynd ar daith anferth o amgylch y Deyrnas Gyfunol ym mis Awst a Medi 2024, gyda 20 o sioeau a diweddglo yn y Palladium yn Llundain. Dyma’i daith gyntaf ers 2022, a bydd yn canu ffefrynnau o’i gatalog helaeth o ganeuon.

Daeth David yn enwog gyntaf pan aeth am gyfweliad ar gyfer cynhyrchiad Llundain o'r sioe gerdd Godspell, a chafodd ei ddewis gan gynhyrchwyr brwdfrydig o America ar gyfer rhan Iesu. Wedi ennill gwobrau blaenllaw a chlod gan adolygwyr, bu’n arwain cast yn y Roundhouse ac yna’r West End am ddwy flynedd.  Ers hynny, mae David wedi mwynhau gyrfa hynod sydd wedi cyfuno cyngherddau, recordiau, theatr, cyfansoddi, ffilmiau a theledu gyda llwyddiant ysgubol.

Mae wedi ysgrifennu, recordio a chynhyrchu albymau sydd wedi gwerthu miliynau o gopïau ledled y byd.  Mae hefyd wedi cael tair ar hugain o senglau yn y 30 Uchaf ym Mhrydain. Mae’r rhain yn cynnwys Rock On a gafodd ei enwebu am Grammy©, a gyrhaeddodd frig y siartiau ym Mhrydain a’r UDA ond a werthodd hefyd dros filiwn o gopïau.   Roedd senglau eraill i ddilyn megis Lamplight, Hold Me Close a Gonna Make You A Star a wnaeth David yn enw adnabyddus ar bob aelwyd.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event