Gweithdy Bît-bocsio
Mae Mr Phormula yn artist bît-bocsio a lwpio byw arloesol. Wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru, mae’i berfformiadau ysbrydoledig a’i gyfansoddiadau lleisiol wedi rhoi cydnabyddiaeth ryngwladol i’w waith fel bît-bocsiwr, rapiwr a chynhyrchydd blaenllaw.
Dros benwythnos Cymerwch Ran, ymunwch gyda Mr Phormula i ddysgu sut mae bît-bocsio!
- Dydd Sadwrn 13 Ionawr
- Drwy’r dydd – sesiynau galw heibio
- Ystafell Crafnant
- Am ddim
Mae’r digwyddiad hwn wedi’i noddi gan Maethu Cymru Conwy