Aled Jones – Full Circle

Aled Jones – Full Circle

Archebwch Nawr

Byddwch yn barod i glywed hanes Aled Jones yn llawn, fel na chlywsoch chi o’r blaen.

Dyma’r soprano a swynodd y byd gyda’i lais angylaidd. Ac yntau wedi gwerthu dros saith miliwn o albymau, Aled oedd seren wreiddiol cerddoriaeth glasurol boblogaidd. Bu ei recordiad o Walking in the Air o’r ffilm animeiddiedig The Snowman yn gyfrifol am ei sefydlu’n enw cyfarwydd drwy’r wlad, ac mae wedi dod yn rhan ganolog o ddathliadau Nadolig y genedl.

Mae yr un mor gartrefol ar y llwyfan clasurol ag y mae wrth serennu mewn cynyrchiadau theatr gerdd yn West End Llundain, ac mae wedi chwarae rhannau arweiniol yn Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat, Chitty Chitty Bang Bang a White Christmas gan Irving Berlin.

Mae galw byd-eang am Aled fel canwr, ac mae wedi perfformio yn lleoliadau mwyaf eiconig y byd – o Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain i Dŷ Opera Sydney. Mae’n ffefryn gan y teulu brenhinol, ac mae hyd yn oed wedi rhoi perfformiad preifat i’r Brenin Charles III ym Mhalas Kensington.

Y mae hefyd yn gyflwynydd radio a darlledwr teledu sydd wedi ennill gwobrau – mae wedi cyfweld cannoedd o sêr enwog iawn dros y blynyddoedd. Mae’n cyflwyno Songs of Praise i’r BBC, yn ogystal â’i sioe ei hun ar Classic FM ar foreau Sadwrn a Sul.

Bellach, ar ôl 40 mlynedd yn y byd adloniant, mae’n edrych yn ôl ar yrfa ryfeddol mewn sioe un dyn, a fydd yn cynnwys cerddoriaeth na chlywsoch chi erioed o’r blaen, straeon dros y degawdau ac am y tro cyntaf, ei hanes wedi’i adrodd yn ei eiriau ei hun. Dyma sioe Aled Jones – Full Circle.

Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event