Young Marx

NT Live

Young Marx

Tystysgrif i'w gadarnhau

Archebwch Nawr

Rory Kinnear (The Threepenny Opera, Penny Dreadful, Othello) yw Marx ac Oliver Chris (Twelfth Night, Green Wing) yw Engels, yn y comedi newydd hwn a ysgrifennwyd gan Richard Bean a Clive Coleman. Wedi’i darlledu’n fyw o The Bridge Theatre, Llundain, caiff y cynhyrchiad ei gyfarwyddo gan Nicholas Hytner ac mae’n aduno’r tîm creadigol y tu ôl i’r sioe gomedi Broadway a West End llwyddiannus, One Man, Two Guvnors.

1850, ac mae terfysgwr mwyaf arswydus Ewrop yn llechu yn Dean Street, Soho. Heb geiniog, yn anesmwyth ac yn awydd dynes, mae’r chwyldroadwr 32 oed yn gyfuniad byrlymus o ddisgleirdeb deallusol, difrïaeth, ffraethineb dychanol ac anllythrennedd emosiynol tebyg i blentyn.

Mae credydwyr, ysbiwyr, gelynion chwyldroadol a hudwyr posibl o’i wraig brydferth i gyd yn ei amgylchynu fel fwlturiaid. Ei ysgrifennu wedi’i roi ar stop, ei briodas yn marw, ei gyfaill Engels mewn trallod ynghylch â gwastraff ei athrylith, ei unig obaith yw gwaith ar y rheilffordd. Ond does yna neb gwell yn y ddinas i ddangos noson allan ar y cwrw i chi na Karl Heinrich Marx.