The Vanishing
-

The Vanishing

Tystysgrif 15

-
Archebwch Nawr

Wedi i dri geidwad goleudy gyrraedd eu gwaith ar ynys anghysbell yn yr Alban, maen nhw’n gwneud darganfyddiad tyngedfennol: cwch rhwyfo wedi’i ddryllio – a chist llawn o aur. Wrth i gwch ddieithr nesáu at yr ynys, mae’r tri dyn yn gwneud dewis a fydd yn newid eu bywydau am byth, gan eu dal mewn gwe o drachwant, paranoia a llofruddiaeth.

Gerard Butler, Peter Mullan a Connor Swindells yw sêr y ffilm gyffrous hon sy’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn.

Mae Theatr Colwyn wrth eu bodd cyhoeddi y bydd cyd-ysgrifennwr/cynhyrchydd gweithredol y ffilm a Noddwr Theatr Colwyn, Celyn Jones, yn ymuno â ni ar 20 Mai.

Bydd Celyn yn cyflwyno’r ffilm a bydd sesiwn Cwestiynau ac Atebion ar y diwedd.