Un Ballo in Maschera

Opera Cenedlaethol Cymru

Un Ballo in Maschera

Verdi

Archebwch Nawr

Mae cariad, pŵer a gwleidyddiaeth yn gwrthdaro yn Un ballo in maschera – sy’n seiliedig ar lofruddiaeth y Brenin Gustav III o Sweden, a saethwyd yn ystod dawns fasgiau yn 1792. Mae Riccardo (Gustav) yn addoli Amelia, ond pan mae ei gŵr yn clywed am y garwriaeth  mae’n cynllwynio yn erbyn y brenin, sy’n arwain at y llofruddiaeth yn y ddawns. Gwyn Hughes-Jones sy’n arwain y cast fel Riccardo yn y stori hon o dwyll, cynllwynio, cariad a dial.

Mae’r sgôr yn un o rai mwyaf dwys Verdi gan roi’r angerdd cerddorol sy’n gyrru’r cynhyrchiad newydd, cyffrous hwn. Bydd Cyfarwyddwr Artistig WNO David Pountney yn cydweithio eto â Carlo Rizzi (*), Arweinydd Llawryfol WNO, ynghyd â’r un tîm creadigol a weithiodd ar La forza del destino ar gyfer ail ran ein trioleg Verdi. Cenir yn yr Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg.

#WNOballo

(*) Carlo Rizzi yn arwain yng Nghaerdydd a Birmingham yn unig

Rhaglas

Cefn llwyfan Un ballo in maschera