Yn Fyw o'r Theatr Genedlaethol
The Tragedy of King Richard the Second
Tystysgrif 12 (fel yn fyw)
gan William Shakespeare
Mae Simon Russell Beale yn chwarae Richard II William Shakespeare, wedi ei ddarlledu’n fyw o lwyfan Theatr Almeida yn Llundain i sinemâu.
Caiff y cynhyrchiad newydd hwn o’r galon ynglŷn â chyfyngiadau grym ei gyfarwyddo gan Joe Hill-Gibbins, y mae ei sioeau blaenorol yn cynnwys Little Revolution yn yr Almeida ac Absolute Hell yn y Theatr Genedlaethol.
Mae Richard II, Brenin Lloegr, yn anghyfrifol, yn wirion ac yn falch. Mae ei arweinyddiaeth wan yn golygu bod ei deyrnas mewn trafferth a’i lys yn ferw gwyllt. Heb ddewis arall ond ymafael mewn grym, mae’r Bolingbroke uchelgeisiol yn herio’r goron a hawl ddwyfol y Brenin i reoli.
Mae Simon Russell Beale yn dychwelyd i sgriniau’r Theatr Genedlaethol yn fyw wedi darlledu Timon of Athens a King Lear, a’i rôl ddiweddar yng nghynhyrchiad arbennig diwethaf y Theatr Genedlaethol, The Lehman Trilogy.