Tom Gates
-

Birmingham Stage Company yn cyflwyno

Tom Gates

Gan Liz Pichon

-
Archebwch nawr

Tom Gates ydw i a dwi’n gyffrous IAWN i ddweud wrthych am fy SIOE LWYFAN FYW GYNTAF ERIOED!

Dwi ynddo (yn amlwg) gyda Amy Porter (sy’n cŵl), fy ffrind gorau Derek a’n band DOGZOMBIES.

Mae mor WYCH bydd hyd yn oed Marcus Meldrew yn mwynhau'r stori NEWYDD SBON sydd erioed wedi ei hadrodd o'r blaen! Byddaf yn gwneud popeth posib i beidio achosi trafferth a bydd llawer o dŵdlo a waffers caramel (iym). Byddaf yn mynd ar nerfau fy chwaer flin Delia (ffordd dda o dreulio amser) ac mae'r Fossils yn dod a bwyd - ond peidiwch â gadael i hynny eich cadw draw.

Mae’n mynd i fod yn ANHYGOEL!

Gan gynhyrchwyr Horrible Histories a Gangsta Granny dyma sioe lwyfan fyw gyntaf TOM GATER mewn antur gyffrous a doniol sy’n troi byd Tom ar ei ben i lawr! Peidiwch â cholli cyfle i weld cymeriadau anhygoel Liz Pichon yn dod yn fyw yn y stori newydd sbon hon ar gyfer y llwyfan!

"This truly amazing show brings my books wonderfully to life in a fantastically funny and visually mesmerizing way. It's a total feast for the eyes and ears and I couldn't be prouder of it!"  

Liz Pichon