Thriller Live!
-

Thriller Live!

-
Archebwch Nawr

Yn syth o lwyfan y West End yn Llundain am y 10fed blwyddyn,  mae THRILLER LIVE yn gyngerdd arbennig wedi ei chreu i ddathlu gyrfa un o ddiddanwyr gorau’r byd.

Wedi ei weld gan fwy na pum miliwn o bobl ar draws 30 o wledydd, mae Thriller Live yn dal i leuad gerdded o amgylch y byd, gan fynd â chi ar daith weledol, clywedol a gwefreiddiol drwy 45 mlynedd o hanes cerddorol Michael Jackson.

Cewch eich diddanu â dros ddwy awr o ganeuon llwyddiannus, o bop i roc ac o fiwsig yr enaid i ddisgo, bydd y cast yn talu teyrnged i berfformiadau byw eiconig a symudiadau dawns diguro Jackson gan gyfleu ei ddawn, ei fanylder a’i angerdd, dyma sioe gofiadwy tu hwnt.

Bydd y cast a’r band hynod dalentog yn perfformio bob un o'ch ffefrynnau, gan gynnwys: I Want You Back, ABC, Can You Feel It, Off The Wall, The Way You Make Me Feel, Smooth Criminal, Beat It, Billie Jean, Dirty Diana, Bad, Rock With You, They Don’t Care About Us, Dangerous, Thriller a llawer mwy!

⭐️⭐️⭐️⭐️ "A TOTAL BLAST. The staging and constant brilliance of the musicians keep us riveted. A WONDERFUL SHOW”

Whatsonstage.com

⭐️⭐️⭐️⭐️ "You can't beat it!"

Evening Standard