Taith Fyd-Eang Gŵyl Ffilm Mynydd Banff 2020

Rhaglen Goch

Taith Fyd-Eang Gŵyl Ffilm Mynydd Banff 2020

Book now

Dewch am noson gyffrous o antur gyda chasgliad newydd sbon o ffilmiau byrion gan ŵyl ffilm mynydd mwyaf mawreddog y byd!

Mae Gŵyl Ffilm Mynydd Banff yn uno gwneuthurwyr ffilmiau antur gorau'r byd a fforwyr, wrth iddynt wthio eu hunain i eithafion yng nghorneli mwyaf anghysbell a syfrdanol y byd. Dewch i weld campau dynol arwrol, heriau bythgofiadwy a sinematograffi anhygoel – i gyd ar y sgrin fawr!

Mae dwy sioe, gyda detholiadau hollol wahanol o ffilmiau – rhaglen ffilm goch (dydd Sadwrn 1 Chwefror) a'r rhaglen ffilm las (dydd Iau 23 Ebrill). Ewch am ddwbl yr antur drwy fynychu’r ddwy sioe gyda gostyngiad dwy sioe, ar gael ar-lein.

Digwyddiad llawn adrenalin na ddylech ei golli, gyda gwobrau sy’n siŵr o ennyn eich brwdfrydedd am antur, egni a theithio!

Ewch i www.banff-uk.com i gael rhagor o fanylion.