Yn cynnwys Cerddorfa fyw gyda thros 30 o gerddorion
Mae Swan Lake yn dilyn hanes dwy ferch ifanc, Odette ac Odile, sydd mor debyg i’w gilydd fel y gellir yn hawdd eu camgymryd am y llall.
Am y tro cyntaf yn y DU, daw’r cwmni bale hwn o Moldofa gyda dawnswyr o wahanol wledydd dros y byd, gan gynnwys Wcráin.
Mae Swan Lake yn glasur gymhellgar o ramant drasig sy’n adrodd hanes tywysoges, Odette, a gaiff ei throi’n alarch gan felltith gythreulig. Daw'r Tywysog Siegfried ar draws haid o elyrch wrth hela. Ond, pan mae’n gweld un o'r elyrch yn troi i fod yn ferch ifanc hardd, caiff ei swyno'n llwyr - a fydd ei gariad yn ddigon cryf i dorri'r felltith gythreulig a osodwyd arni?
O ysblander gogoneddus ystafell ddawns y palas i’r llyn yng ngolau lleuad lle mae elyrch godidog yn arnofio’n hamddenol ar y dŵr, mae hanes y rhamant drasig hon yn ddiguro.
Mae Swan Lake yn berfformiad bale sy’n cipio’r ystod lawn o emosiynau dynol fel dim arall - o obaith i anobaith, o arswyd i dynerwch, ac o’r prudd i orfoledd.
Dyma ffordd wych i dreulio eich noson, i greu atgofion y byddwch yn eu trysori am sbel.
I gael rhagor o fanylion, ewch i www.amande-concerts.co.uk