Strictly Come Dancing The Professionals

Strictly Come Dancing The Professionals

Archebwch Nawr

Mae Strictly Come Dancing – The Professionals yn dychwelyd i leoliadau ar hyd a lled y wlad ym mis Mai ar gyfer taith 35 niwrnod.    

Yn syth o raglen deledu lwyddiannus y BBC, bydd y cynhyrchiad cyfareddol hwn yn dod â rhai o’n hoff ddawnswyr proffesiynol at ei gilydd unwaith eto ar gyfer sioe syfrdanol o’u medrau dawnsio.  

Bydd cynulleidfaoedd yn dotio at fedrau anhygoel y dawnswyr o fri wrth iddyn nhw berfformio dawnsdrefnau neuadd a Lladin gyda’r secwins, y disgleirdeb a’r cynyrchiadau anhygoel yr ydym ni bellach mor gyfarwydd â nhw.  

Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw yma i weld Strictly Come Dancing – The Professionals wrth iddo ddychwelyd i leoliad wrth eich ymyl chi – yn wir, mi fyddwch chi’n dawnsio gan lawenydd o’ch sedd!

CADARNHAU’R DAWNSWYR

Y dawnswyr gwych a phoblogaidd o raglen deledu Strictly fydd ar y daith ydi: Pencampwraig bresennol Strictly 2017 Katya Jones; AJ Pritchard a gyrhaeddodd y rownd gyn derfynol yn 2017; Giovanni Pernice sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Strictly ddwywaith; Oti Mabuse a gyrhaeddodd rownd derfynol Strictly yn 2016; Pencampwraig Agored Awstralia Dianne Buswell; Pencampwr Mambo Proffesiynol y Byd Kevin Cliffton sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar ddau achlysur; Pencampwraig Dawnsio Neuadd a Lladin y Byd ar ddau achlysur Nadiya Bychkova; Pencampwr Cenedlaethol Prydain heb ei guro ar bedwar achlysur Neil Jones; Pasha Kovalev sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Strictly ar dri achlysur, a Gorka Marquez a gyrhaeddodd rownd derfynol Strictly yn 2017.