The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde
-

Mae Blackeyed Theatre, ar y cyd â South Hill Park, yn cyflwyno

The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde

Gan Robert Louis Stevenson

-
Archebwch Nawr

Mae Dr Henry Jekyll yn ddyn da.  Mae’n llwyddiannus yn ei faes ac yn cael ei barchu gan ei gyfoedion.  Mae’n agos at wneud canfyddiad niwrolegol a fydd yn newid gwyddoniaeth feddygol am byth.  Fodd bynnag, mae ei ddulliau braidd yn anfoesol, a phan fo ffrind agos a chydweithiwr iddo yn bygwth datgelu a dinistrio ei waith, mae Jekyll yn cael ei orfodi i arbrofi arno ei hun, a dyna pryd aiff pethau o chwith... neu yn berffaith iawn. Ac yn sydyn mae gan Jekyll ffrind newydd, cymeriad creulon o’r enw Edward Hyde.

Mae addasiad cyffrous o ffantasi seicolegol tywyll Robert Louis Stevenson, ‘The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde’, yn eich trochi yn chwedl a dirgelwch strydoedd niwlog Llundain yn y 19eg ganrif lle mae cariad, brad a llofruddiaeth yn llercian y tu ôl i bob troad a chornel. Drama afaelgar a chelfydd sy'n gwneud i chi feddwl - peidiwch â'i methu! Sbwyliwch eich ochr dywyll!

  • Cyfarwyddwyd ac addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Nick Lane

  • Cerddoriaeth Tristan Parkes

  • Gwaith Dylunio Victoria Spearing

  • Dylunydd gwisgoedd Naomi Gibbs

  • Dylunydd goleuo Claire Childs

www.blackeyedtheatre.co.uk

“One of the most innovative, audacious companies working in contemporary English Theatre”

The Stage