Stereophonics

Stereophonics

Gwerthu allan

Cyn eu hymddangosiadau mewn gwyliau a sioeau awyr agored dros yr haf eleni, mae Stereophonics wedi cyhoeddi tri dyddiad rhagymarfer gan gynnwys Venue Cymru.

Cyhoeddodd Stereophonics eu halbwm aur, ‘Scream Above The Sounds’ y llynedd, sef eu 10fed albwm stiwdio gan gynnwys chwe albwm a gyrhaeddodd y brig yn y siartiau: ‘Keep The Village Alive’ (2015), ‘Performance and Cocktails’ (1999), ‘Just Enough Education To Perform’ (2001) ‘You Gotta Go There To Come Back’ (2003), ‘Language. Sex. Violence. Other?’ (2005) a ‘Pull The Pin’ (2007).

Fel un o fandiau byw gorau Prydain, mae teithiau a pherfformiadau Stereophonics wedi gwerthu allan ar draws y byd. Bydd Stereophonics yn perfformio yn Ngŵyl This Is Tomorrow, Westonbirt, Eden Project, Gŵyl  Lytham dros yr haf eleni, yn ogystal â’u sioe enfawr ym Mharc Singleton, Abertawe a werthodd allan mewn deng munud. Bydd prif ganwr Stereophonics, Kelly Jones, hefyd yn ymgymryd â thaith unigol, gan gynnwys dyddiad arbennig yn Eventim Apollo, Llundain, ddydd Sul 16 Mehefin.

Gellir prynu tocynnau ar gigsandtours.com, myticket.co.uk, ticketmaster.co.uk a stereophonics.com. Nodwch na fydd tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael yn swyddfa docynnau Venue Cymru.