Sometimes Always Never

Noson Ffilm Rialto

Sometimes Always Never

Tystysgrif 12

Archebwch Nawr

Mae Alan (Bill Nighy) yn deiliwr llawn steil o Lerpwl gyda’i symudiadau yr un mor anhygoel â’i siwtiau. Mae wedi treulio blynyddoedd yn chwilio’n ddiflino am ei fab colledig Michael a adawodd yn flin dros gêm o Scrabble.

Gyda chorff i’w adnabod a’i deulu wedi eu rhwygo, mae’n rhaid i Alan adfer y berthynas gyda'i fab ieuengaf Peter a datrys dirgelwch chwaraewr ar-lein a allai, yn ei dyb ef, fod yn Michael, fel y gall symud ymlaen o'r diwedd ac ail uno ei deulu.

Mae Sometimes Always Never wedi ei hysgrifennu gan Frank Cottrell Boyce (awdur 24 Hour Party People, A Cock and Bull Story, a The Railway Man) ac mae wedi ei chyfarwyddo gan Carl Hunter (Grow Your Own).