Ymunwch â Bale Gŵyl Fienna ar siwrnai hudolus gyda’u cynhyrchiad rhyfeddol o stori Eira Wen. Mae coreograffi o’r radd flaenaf yn gyrru’r chwedl fythol hon ac yn ateb y cwestiynau; pwy yw’r person harddaf oll? Yn seiliedig ar hanes traddodiadol y brodyr Grimm, mae’r sioe fale hon yn ymgorffori pob un o’r elfennau pwysig – merch brydferth, drych hudol, ac afal gwenwynig. Bydd y corachod hip hop yn helpu Eira Wen i ddod o hyd i’w Thywysog.
Heb os nac oni bai, bydd y sioe fale hudol hon yn diddanu ac yn syfrdanu'r teulu cyfan.
Coreograffi gan Barry McGrath
“The entire show was captivating from start to finish”
WELWYN HATFIELD TIMES
www.viennafestivalballet.com | www.facebook.com/viennafestivalballetcompany | @viennafestivalb