Sibeal Pounder

Sgwrs Witch Wars

Sibeal Pounder

Rhan o Cymerwch Ran 2018

Archebwch Nawr

Paratowch i anghofio’r cyfan roeddech chi’n credu eich bod yn ei wybod am wrachod wrth i ni eich gwahodd i lawr twll y plwg i’r bythol hardd Ritzy City!

Dysgwch bopeth am Tiga, ei ffrindiau, gelynion a thylwythen reit ysblennydd o’r enw Fran wrth iddynt gystadlu yn rhyfeloedd y gwrachod! Dewch draw i gwrdd â’r awdur Sibéal Pounder. Bydd yna swynion, digonedd o chwerthin a chenfigen esgidiau go iawn!

Rydym yn argymell gwisgoedd pen yn gryf. Ar gyfer rhai 7+ oed