Schubert

Ensemble Cymru

Schubert

Archebwch Nawr

Mae Ensemble Cymru yn cynnig cyfle prin i brofi perfformiad byw o Wythawd Schubert ar gyfer offerynnau chwyth a llinynnau.

Yn cynnwys 6 symudiad nodedig, mae’n arddangos gwaith cyfansoddwr sydd â dawn unigryw i'n swyno gydag alawon a harmonïau hudolus. I gyd-fynd â'r gwaith hwn, comisiynodd Ensemble Cymru deyrnged i Schubert gan y cyfansoddwr Cymreig, John Metcalf. Gyda’i harddwch breuddwydiol, ac wedi ei ysbrydoli gan yr alaw werin hardd Gymreig, Bugeilio’r Gwenith Gwyn, mae Metcalf yn creu teyrnged gyfoes addas i ddisgleirdeb telynegol Schubert.

  • Wythawd – Franz Schubert
  • Wythawd (2018) – John Metcalf

“Mae Beethoven yn cyfansoddi fel pensaer. Mae Schubert yn cyfansoddi fel petai’n cerdded yn ei gwsg.” Alfred Brendel

All the players distinguished themselves in the characterful nature of their delivery 

Seen and Heard (2018)