Sarah McIntyre

Cymerwch Ran 2019

Sarah McIntyre

Dinosaur Firefighters!

Archebwch Nawr

NÎ-NÔ, NÎ-NÔ! Pawb i’w le! Dim ond diwrnod arferol yn y gwaith i Diplodocus hurt sy’n ymuno â diffoddwyr tân Dinoville – gyda chanlyniadau doniol!

Ymunwch â'r awdur-ddarlunydd o fri, Sarah McIntyre, am amser stori rhyngweithiol gyda diffoddwyr tân Dinoville, wrth iddyn nhw lithro lawr y polion, rhuthro i achub y dydd a datglymu T-Rex trwsgl.

Dysgwch sut i ddarlunio’ch Diplodocus eich hun! Hwyl i’r teulu cyfan. (4 oed +)