Rigoletto
-

Welsh National Opera

Rigoletto

Verdi

-
Archebwch Nawr

Gall y Dug gael unrhyw fenyw a ddymuna, ac mae'n byw bywyd o wamalrwydd a llygredigaeth. Mae Rigoletto, digrifwas y Dug, yn gwneud hwyl am ben tadau a gwŷr y menywod mae'r Dug yn ceisio eu hudo, sydd yna'n mynd ati i geisio dial arno. Ond mae gan Rigoletto anrhydedd ei ferch ei hun i'w warchod, ac mae digwyddiadau yn datblygu gyda goblygiadau anfwriadol.

Ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau, a gyda'i stori a sgôr dramatig – sy'n cynnwys yr adnabyddus La donna è mobile – mae'n hawdd gweld pam ei bod yn parhau i fod yn ffefryn bythol. Mae'r adfywiad amserol hwn o gynhyrchiad poblogaidd WNO wedi ei osod yn y Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaeth Kennedy, ac mae'n gweld Mark S Doss (Tosca, Gwanwyn 2018) yn dychwelyd i'r Cwmni yn y  brif ran.

Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg

wno.org.uk/rigoletto | #WNOrigoletto