Remembering the Movies

Remembering the Movies

Aljaž Skorjanec a Janette Manrara

Archebwch Nawr

Mae Aljaž a Janette yn eu holau ar daith gyda’u sioe newydd sbon, Remembering the Movies. Os wnaethoch chi fwynhau Remembering Fred, byddwch yn barod i fynd ar daith unigryw llawn rhyfeddodau sy'n cynnwys sawl seren enwog drwy rai o ffilmiau mwyaf llwyddiannus a chofiadwy erioed.

O Oes Aur Hollywood drwodd i ddramâu cerdd arbennig a chyfoes, cewch fwynhau teyrngedau i Audrey Hepburn, Saturday Night Fever, Gene Kelly, The Greatest Showman, Marilyn Monroe, La La Land, James Bond, Cabaret a llawer mwy...

Rhowch eich gwregys ymlaen, gafaelwch yn dynn a gadewch i’ch hun syrthio mewn cariad o'r newydd gyda dawnsio a chaneuon clasurol y sinema, wrth i hoff gwpwl Strictly Come Dancing ddathlu hanes y sinema gyda choreograffi syfrdanol, setiau dychmygus, cefnlenni trawiadol, sgrin LED aml-gyfrwng enfawr wedi’u cefnogi gan gast anhygoel o ganwyr a dawnswyr byw - bydd yn sicr o ddod â’r sinema yn fyw yn eich cof.