Pitch Perfect 3
-

Pitch Perfect 3

Tystysgrif 12A

-
Archebwch Nawr

 

Hyd y ffilm: 112 munud

Cast: Anna Kendrick, Rebel Wilson, Hailee Steinfeld, Brittany Snow, John Lithgow

Mae'r merched bellach wedi graddio o’r Brifysgol ac wedi symud ymlaen i fyd gwaith – ac mae angen llawer mwy na llais da i lwyddo yn y byd hwnnw. Mae’r Bellas yn eu holau unwaith eto yn Pitch Perfect 3, y bennod nesaf yn y gyfres hynod lwyddiannus sydd hyd yma wedi llwyddo i wneud dros $400 miliwn yn fyd eang. Yn dilyn eu llwyddiant ym Mhencampwriaethau’r Byd, mae'r Bellas bellach wedi gwahanu ac yn dechrau darganfod mai prin iawn yw swyddi’n gysylltiedig â chanu. Ond pan ddaw’r cyfle i ailuno ar gyfer taith yr USO dramor, mae’r grŵp hwn o ferched talentog yn manteisio ar y cyfle ac yn dod ynghyd i greu cerddoriaeth a gwneud penderfyniadau amheus unwaith eto.

Cast: Anna Kendrick, Rebel Wilson, Hailee Steinfeld, Brittany Snow, John Lithgow