Philip Reeve & Sarah McIntyre

Cymerwch Ran 2019

Philip Reeve & Sarah McIntyre

Pugs of the Frozen North!

Archebwch Nawr

Ymunwch ag awdur-ddarlunwyr a chyd-berfformwyr, Reeve a McIntyre, ar daith hudolus i’r Gogledd Rhewllyd yng nghwmni raswyr slediau dewr, ietïaid sy’n bwyta nwdls a 66 o gŵn pyg. Dysgwch sut i ddarlunio eich pyg eich hun a chyfrannwch eich syniadau i greu cwrs rasio gwirion gwyllt i Begwn y Gogledd!

Bywgraffiad: Mae Philip Reeve a Sarah McIntyre yn meddwl am bob math o anturiaethau gyda’i gilydd, gan gynnwys Oliver and the Seawigs, Cakes in Space, Jinks & O’Hare Funfair, ac yn fwyaf diweddar, The Legend of Kevin, sy’n sôn am ebol byrdew sy’n hedfan. Mae Philip hefyd yn ysgrifennu ei lyfrau ei hun, gan gynnwys Railhead, Goblins a Mortal Engines (a lansiwyd fel ffilm yn y sinemâu ym mis Rhagfyr). Mae Sarah yn creu llyfrau lluniau a llyfrau comics, gan gynnwys There’s a Shark in the Bath, The New Neighbours, Dinosaur Firefighters a Vern & Lettuce.