Pencampwriaeth y Gylchdaith Ladbrokes 2019
-

Pencampwriaeth y Gylchdaith Ladbrokes 2019

-
Archebwch Nawr

Bydd sêr mwyaf y byd snwcer yn troi eu golygon unwaith eto at Venue Cymru rhwng yr 19eg a’r 24ain o Fawrth 2019, wrth i Landudno westeio Pencampwriaeth newydd Coral ar gyfer y gylchdaith am y tro cyntaf.

Mae Pencampwriaeth y Gylchdaith Coral yn ddigwyddiad newydd o fewn yr un gyfres. Dim ond wyth chwaraewr gorau’r tymor 2018/19 yn ôl y rhestr safleoedd dros y flwyddyn fydd yn cymhwyso, ac felly bydd yn faes elît yn cynnwys brenhinoedd y bwrdd snwcer.

Ronnie O’Sullivan oedd yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Chwaraewyr Ladbrokes yn Llandudno y tymor diwethaf, wrth iddo drechu Shaun Murphy yn y rownd derfynol. Roedd Mark Selby, Judd Trump, John Higgins, Mark Williams a'u tebyg hefyd yn ymgiprys am y wobr.

Mae cystadleuaeth 2019 yn cynnig prif wobr o £150,000 gyda chyfanswm y gronfa wobrwyo yn £375,000.