Papillon
-

Papillon

Tystysgrif 15

-
Archebwch Nawr

Wedi’i seilio ar lyfrau hunangofiannol poblogaidd “Papillon” a “Banco", sydd wedi profi’n boblogaidd yn rhyngwladol, mae'r ffilm yn dilyn stori epig Henri “Papillon” Charrière (Charlie Hunnam), torrwr coffrau o isfyd Paris sy'n cael ei gyhuddo ar gam o lofruddiaeth ac yn cael ei gondemnio i fywyd yn y wladfa gosbedigaethol ar Devil's Island.

Yn benderfynol o adennill ei ryddid, mae Papillon yn ffurfio cynghrair annhebygol gyda Louis Dega (Rami Malek), bathwr arian drwg, sydd yn gyfnewid am gael ei amddiffyn yn cytuno i ariannu dihangfa Papillon.

CAST: CHARLIE HUNNAM, RAMI MALEK, TOMMY FLANAGAN, EVE HEWSON, ROLAND MØLLER, NINA SENICAR, MICHAEL SOCHA