Opera Ieuenctid OCC

Opera Cenedlaethol Cymru

Opera Ieuenctid OCC

Cysylltwch â ni

Caru canu? Mae Opera Ieuenctid yn raglen hyfforddi, sydd wedi ennill gwobrau, ar gyfer unrhyw berson ifanc sy’n caru canu.

Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un rhwng 8 a 14 oed sydd eisiau datblygu eu sgiliau canu. Nid oes angen profiad blaenorol arnoch i ymuno ac nid oes clyweliadau.

Bydd cyfle i weithio ochr yn ochr â cherddorion a chyfarwyddwyr drama broffesiynol. Mae perfformiadau yn amrywio o rannu perfformiadau anffurfiol gyda chyfeillion a theulu i gynyrchiadau llwyfan go iawn.

Peidiwch  â cholli allan ar y cyfle cyffrous gan fod aelodaeth ar sail y cyntaf i’r felin.

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gadw eich lle yn y grŵp cysylltwch â Morgana Warren Jones.