One Man, Two Guvnors

Anniversary Encore Screening

One Man, Two Guvnors

Tystysgrif 12A

Archebwch Nawr

Gyda pherfformiad a enillodd wobr Tony i gyflwynydd The Late Late Show, James Corden, mae sioe fawreddog y West End a Broadway, One Man, Two Guvnors, yn dychwelyd i sinemâu i nodi pen-blwydd National Theatre Live yn ddeg oed.

Ar ôl cael y sac o’i fand sgiffl, mae Francis Henshall (Corden) yn dod yn warchodwr i Roscoe Crabbe, dihiryn di-nod o’r East End, sy’n mynd i Brighton i gasglu £6,000 gan dad ei ddyweddi.

Ond mewn gwirionedd ei chwaer, Rachel, yw Roscoe sy’n dynwared ei brawd ei hun sydd wedi cael ei ladd gan ei chariad, Stanley Stubbers. 

Wrth guddio yn y Cricketers’ Arms, mae Francis sydd ar lwgu drwy'r amser yn achub ar y cyfle am docyn bwyd ychwanegol ac yn cymryd ail swydd gyda dyn o'r enw Stanley Stubbers, sy’n cuddio oddi wrth yr heddlu ac yn aros i gael ei aduno â Rachel. I osgoi cael ei ddal, mae’n rhaid i Francis gadw ei ddau feistr ar wahân.   Syml.