Nutcracker

Tŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia yn cyflwyno

Nutcracker

Archebwch Nawr

Cerddoriaeth gan Pyotr I. Tchaikovsky | Yn cynnwys Cerddorfa byw gyda dros 30 o gerddorion

‘I nifer o bobl, mae The Nutcracker yn glasur dros gyfnod y Nadolig sy’n dod ag ysbryd yr ŵyl yn fyw. Nid yw’r cynhyrchiad yma’n dal yn ôl o gwbl, a chaiff y gynulleidfa eu diddanu â sioe llawn pŵer a phresenoldeb arbennig.’ – Jim Gillespie, Review Hub.

Ni fyddai'r Nadolig yr un fath heb daith i'r theatr leol i weld cynhyrchiad llewyrchus o’r bale mwyaf enwog yn y byd - The Nutcracker

Yn draddodiadol, mae Tŷ Opera a Bale Gwladol Rwsia yn dychwelyd ar gyfer eu taith bale bywiog a swynol  blynyddol o amgylch y DU.

Eira mân, melysion, tywysogion, hud a chariad, dyma rhai o'r elfennau sy’n dod at ei gilydd yng nghynhyrchiad y cwmni Rwsiaidd poblogaidd hwn. Dyma gynhyrchiad bale sy’n addas i bawb, mae’n llawn cerddoriaeth cyfarwydd megis Waltz of the Flowers a Dance of the Sugar Plum Fairy.

Mae The Nutcracker yn ffefryn arbennig dros dymor y Nadolig, sydd wedi’i gyfarwyddo a’i drefnu gan yr Unawdydd Bale Bolshoi, Konstantin Uralsky.

Mae’r clasur bale yn parhau i gipio calonnau a dychymyg plant ac oedolion fel ei gilydd ar draws y byd.  Mae The Nutcracker yn berfformiad theatr hudolus tu hwnt, yn gyflwyniad rhyfeddol i’r byd bale yn ogystal â chlasur gwych i unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r grefft.

Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.russian-state-ballet.co.uk