The Jungle Book

Sgriniad Addas i Bobl â Dementia

The Jungle Book

Tystysgrif U

Archebwch nawr

Yr animeiddiad cerddorol Disney am Mowgli, sydd wedi’i fagu mewn Jyngl Indiaidd a’r anifeiliaid sy’n dod yn ffrindiau (a gelynion) iddo. Gan gynnwys caneuon ‘The Bare Necessities, ‘I Wan’na Be Like You’ a ‘Trust in Me’.

Mae’r dangosiadau sy’n gyfeillgar i ddementia yn cael eu cynhyrchu mewn partneriaeth gyda phrosiect ‘A Life More Ordinary’ yn The Dukes Theatre, Caerhirfryn. Mae hwn yn ddangosiad ar gyfer pobl gyda dementia neu sy’n colli eu cof ac i’w teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, ond mae’n agored i’r cyhoedd hefyd. Sylwch nad yw gofal bugeiliol yn cael ei ddarparu yn y digwyddiadau hyn. Mae’n rhaid i ffrind, aelod o’r teulu neu ofalwr fynychu hefyd.
Mae awyrgylch hamddenol yn y dangosiadau fel bod croeso i bobl symud o gwmpas a mynd a dod fel y mynnant. Bydd egwyl ac adloniant byw. Mae pob perfformiad yn cynnwys egwyl gydag adloniant byw, a ddarperir gan ac mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Canu Conwy, côr staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
*Cysylltwch â ni ymlaen llaw os ydych chi mewn cadair olwyn ac eisiau mynychu, mae llefydd gwag i ddefnyddwyr cadair olwyn yn gyfyngedig.
Subscribe to our Mailinglist
Keep up to date with our event