Jack Savoretti

Jack Savoretti

Archebwch nawr

Yn dilyn ei berfformiad anhygoel fel gwestai arbennig yn Stadiwm Zip World gyda Paloma Faith y llynedd, bydd Jack Savoretti yn dychwelyd i Gonwy gyda Jack yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Mawrth 28 Mai gyda’i chweched albwm stiwdio, Singing To Strangers, i’w gyhoeddi ar Mawrth 15. 

Mae’r albwm newydd sbon a gafodd ei recordio yn stiwdio Ennio Morricone yn Rhufain yn cynnwys 12 cân, gan gynnwys caneuon wedi'u cyd-ysgrifennu â Bob Dylan a Kylie Minogue. Mae’r albwm hwn yn dilyn dau albwm a lwyddodd i ennill disgiau aur - Written in Scars 2014 a Sleep No More 2016.

Bydd Jack a’i fand cymeradwy yn perfformio deunydd o’i albwm newydd yn y sioe yn Llandudno, gan gynnwys ei sengl ddiweddaraf a record yr wythnos gan BBC Radio 2, Candlelight, ynghyd â chlasuron Savoretti.