Benidorm Live
-

Benidorm Live

-
Archebwch Nawr

Gyda Jake Canuso (Mateo), Janine Duvitski (Jacqueline), Adam Gillen (Liam), Sherrie Hewson (Joyce Temple-Savage), Shelley Longworth (Sam), Tony Maudsley (Kenneth) ac un o enwogion Neptune’s, Asa Elliott. Mae BENIDORM, y rhaglen gomedi ardderchog gan Derren Litten, a ddarlledwyd ar ITV, yn siŵr o ddod â haul a hwyl i Landudno wrth gyflwyno cynhyrchiad llwyfan cyntaf y rhaglen deledu hynod boblogaidd hon. 

Mae’r sioe gomedi, sydd wedi ennill sawl gwobr erbyn hyn, yn dathlu dros ddeng mlynedd o hwyl ac mae gwylwyr wedi dilyn hanesion a halibalŵ'r holl gymeriadau dros 10 cyfres ers i’r rhaglen gyntaf gael ei darlledu yn 2007. Mae Litten rŵan wedi ysgrifennu casgliad arall o anturiaethau anhygoel ar gyfer y cast sydd erbyn hyn yn barod i gamu ar y llwyfan - ar ôl tacluso’r gwallt yn y Blow ‘n Go wrth gwrs! 

Archebwch rŵan am ddos o haul BENIDORM ac i weld eich hoff sêr o’r Solana yn fyw ar y llwyfan am y tro cyntaf erioed.