Mwgsi

Mwgsi

Archebwch Nawr

Yn seiliedig ar stori wir, dyma ddrama creulon o onest, llawn hiwmor tywyll gan Manon Steffan Ros am yr enwogrwydd a’r unigrwydd o fod yn berson ifanc sy’n byw gyda chancr.

Yn hytrach na haf llawn gwin, gwyliau a giamocs mae Mwgsi’n wynebu chemo, salwch a’r unigedd rhyfedd o fod yn ffigwr trasig.

Mae’r cynhyrchiad wedi ei selio ar flog didwyll Megan Davies oedd yn cofnodi ei phrofiad o ddygymod â thriniaeth cancr yn ddeunaw oed.

Mae’r tensiwn rhwng Mwgsi ei ffrindiau, ei theulu a hi ei hun yn cynnig darn o theatr llawn hiwmor tywyll sy’n mynnu ein bod ni fel cynulleidfa, o bob oed, yn dod wyneb yn wyneb hefo’n dyfodol ansicr ni’n hunain.