Mrs Peachum's Guide to Love and Marriage

Mrs Peachum's Guide to Love and Marriage

Archebwch Nawr

Prancia tîm LlwyfannauLlai OCC yn ôl ar y llwyfan gydag ailwampiad radical o waith John Gay o 1728, The Beggar's Opera. Ymunwch â Mrs Peachum, Polly ei merch a’r Cardotyn yn eu dehongliad beiddgar o berthnasau a rhinweddau cymharol gwyryfdod.

Yn ei dychryn ynglŷn â phriodas anghyfreithlon Polly gyda lleidr pen ffordd, ceisia Mrs P drefnu bod y dihiryn yn cael ei grogi a bod Polly’n hawlio’r wobr. Caiff ffyddlondeb a chariad eu rhoi ar brawf wrth i fwrdwr a chynddaredd ddod â’r gomedi drasig a chyffrous hon i’w chasgliad. A fydd Polly’n aros yn ffyddlon i’w chariad ac yn cefnu ar ei mam â’i jin?

Mae’n bleser gan OCC berfformio’r opera un act hon, wedi’i haddasu gan Richard Studer, mewn fersiwn gerddorol newydd gan Jonathan Lyness, am y tro cyntaf. Daw cyfeiliant gan Ensemble LlwyfannauLlai o bedwar cerddor, y mezzo soprano o Ogledd Iwerddon, Carolyn Dobbin yw Mrs Peachum a’r soprano Gymreig Alys Mererid Roberts yw ei merch ddi-glem.