Mike and the Mechanics

Mike and the Mechanics

Taith Looking Back Over My Shoulder

Archebwch Nawr

Mae Mike & The Mechanics sydd wedi gwerthu dros ddeng miliwn o recordiau ledled y byd - wedi cyhoeddi eu Taith ledled y wlad Looking Back Over My Shoulder. Bydd 34 cyngerdd ar draws y DU yn cynnwys Venue Cymru ar y 5 Mawrth.

Mae aelod sylfaenol Genesis, Mike Rutherford (Gitâr) yn ymuno gyda chenhedlaeth newydd Mike + The Mechanics sy'n cynnwys un o ganwr R & B mwyaf cynhyrchiol y DU, Andrew Roachford – llais arweiniol a chefndir (y mae ei ganeuon blaenorol yn cynnwys Cuddly Tour a Family Man) a’r canwr o Ganada, Tim Howar – llais arweiniol a chefndir – a ffurfiodd a theithiodd gyda’r band Vantramp, gyda rhai fel Rod Stewart a Paulo Nutini.

Mae Tim yn rhannu ei ddyletswyddau llais gyda Roachford ac mae’r ddau yn ychwanegu dimensiwn teimladwy i sŵn sefydledig y band.

Yn dilyn eu taith ddiwethaf a werthodd allan yn yr UDA, bydd y Daith Looking Back Over My Shoulder yn 2019, yn cynnwys caneuon o’u halbwm diweddaraf Let Me Fly, sydd wedi derbyn canmoliaeth uchel. Bydd hefyd yn cynnwys y gân lwyddiannus yn yr 80au The Living Years a daeth i frig y siartiau yn yr UDA. Aeth y sengl ymlaen i fod yn llwyddiant byd eang. Mae eu caneuon enwog eraill yn cynnwys; Silent Running; All I Need Is A Miracle; Word Of Mouth, Another Cup of Coffee, a’r bythgofiadwy Over My Shoulder.