Manic Street Preachers

Manic Street Preachers

Resistance is Futile

Archebwch Nawr

Mae’r MANIC STREET PREACHERS wedi cyhoeddi eu bod am ddychwelyd i’r llwyfannau gyda manylion am albwm newydd a thaith enfawr o Brydain.

Bydd ‘Resistance Is Futile’, albwm stiwdio rhif 13 i’r band, yn cael ei gyhoeddi ar 6 Ebrill 2018 ar Columbia/Sony (yr albwm yw’r 13eg yn olynol i’r band ei ryddhau ar y label). Dyma oedd gan y band i’w ddweud am y caneuon cyntaf iddynt eu recordio mewn pedair blynedd: “The main themes of ‘Resistance is Futile’ are memory and loss; forgotten history; confused reality and art as a hiding place and inspiration. It’s obsessively melodic - in many ways referencing both the naive energy of ‘Generation Terrorists’ and the orchestral sweep of ‘Everything Must Go’. After delay and difficulties getting started, the record has come together really quickly over the last few months through a surge of creativity and some old school hard work.”

Wedi iddynt fynd i ddau gyfeiriad cerddorol gwahanol gydag albwm acwstig i raddau helaeth yn ‘Rewind the Film’ a cherddoriaeth electronig iasol ‘Futurology’ yn 2014, gyda ‘Resistance Is Futile’ bydd y band yn dychwelyd at sain glasurol y Manics y maent yn cyfeirio ato fel “widescreen melancholia”. Y caneuon ar yr albwm yw’r rhai cyntaf i gael eu recordio yn stiwdio newydd y band, Door to the River (ger Casnewydd).

I gyd-fynd â rhyddhau ‘Resistance Is Futile’, mae’r band wedi cadarnhau eu cyfres fwyaf o sioeau byw ym Mhrydain ers dros ddegawd.

Byddant yn cael eu cefnogi ar bob dyddiad gan y gwestai arbennig iawn The Coral.