Mamma Mia! Here We Go Again - Sing-Along

Dangosiadau o Ffilmiau sy'n Gyfeillgar i Ddemntia

Mamma Mia! Here We Go Again - Sing-Along

Tystysgrif PG

Archebwch Nawr

Byddwch yn barod i ganu a dawnsio, chwerthin a charu unwaith eto. Deg mlynedd ar ôl Mamma Mia! Llwyddodd y ffilm i wneud mwy na $600 miliwn dros y byd ac fe’ch gwahoddir i ddychwelyd i’r ynys hudol Groegaidd, Kalokairi mewn sioe gerdd newydd yn seiliedig ar ganeuon ABBA. Gyda chast gwreiddiol y ffilm yn dychwelyd yn ogystal ag actorion newydd yn cynnwys Lily James, bydd y comedi cerddorol yn dychwelyd i Theatr Colwyn.

Mae’r dangosiadau sy’n gyfeillgar i ddementia yn cael eu cynhyrchu mewn partneriaeth gyda phrosiect ‘A Life More Ordinary’ yn The Dukes Theatre, Caerhirfryn. Mae hwn yn ddangosiad ar gyfer pobl gyda dementia neu sy’n colli eu cof ac i’w teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr, ond mae’n agored i’r cyhoedd hefyd. Sylwch nad yw gofal bugeiliol yn cael ei ddarparu yn y digwyddiadau hyn. Mae’n rhaid i ffrind, aelod o’r teulu neu ofalwr fynychu hefyd.

 

Mae awyrgylch hamddenol yn y dangosiadau fel bod croeso i bobl symud o gwmpas a mynd a dod fel y mynnant. Bydd egwyl ac adloniant byw. Mae pob perfformiad yn cynnwys egwyl gydag adloniant byw, a ddarperir gan ac mewn partneriaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Canu Conwy, côr staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
*Cysylltwch â ni ymlaen llaw os ydych chi mewn cadair olwyn ac eisiau mynychu, mae llefydd gwag i ddefnyddwyr cadair olwyn yn gyfyngedig.