The Lehman Trilogy

NT Live

The Lehman Trilogy

Perfformiad byw felly 12A

Archebwch Nawr

Hanes teulu a chwmni a newidiodd y byd, wedi’i hadrodd mewn tair rhan mewn un noson.

Mae Sam Mendes, sydd wedi ennill gwobrau Academi (Skyfall, The Ferryman) yn cyfarwyddo Simon Russell Beale, Adam Godley a Ben Miles sy’n chwarae rhannau’r Brodyr Lehman, eu meibion a’u hwyrion.

Ar fore oer ym mis Medi yn 1844 mae gŵr ifanc o Bafaria yn sefyll ar ymyl doc yn Efrog Newydd. Mae’n breuddwydio am fywyd newydd yn y byd newydd. Mae ei ddau frawd yn ymuno ag ef ac mae epig Americanaidd yn dechrau.

163 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni a sefydlont - Lehman Brothers – yn dymchwel yn rhyfeddol i fethdaliad, ac yn sbarduno’r argyfwng ariannol mwyaf mewn hanes.

Mae’r ddrama hon wedi cael canmoliaeth feirniadol ac wedi'i henwebu am bum gwobr Olivier ac mae’n cynnwys set drawiadol gan Es Devlin (NT Live: Hamlet). 

Gan Stefano Massini, addaswyd gan Ben Power | Cyfarwyddwr Sam Mendes