La Traviata

Ellen Kent & Opera International yn cyflwyno

La Traviata

Archebwch Nawr

Gyda’r sopranos rhyngwladol Alyona Kistenyova* a Maria HeeJung Kim*

Stori drist am angerdd brwd a cherddoriaeth gofiadwy, La Traviata yw dehongliad anhygoel Verdi o un o straeon serch mwyaf poblogaidd yr 19eg ganrif, La Dame aux Camelias.

“Uplifting, charming, heroic and finally tear-jerking”

Liverpool Echo

Yn seiliedig ar stori wir, mae’n adrodd hanes bywyd a chariadon Violetta, gwraig llys a oedd yn dioddef o’r diciâu. Mae’r stori yn adleisio bywyd Verdi ei hun a bu iddo ymdaflu i’r gerddoriaeth. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys y Brindisi, y gân yfed enwog, deuawd Un Di Felice ac aria hiraethus Violetta, Addio Del Passato.

“First-rate singing”

The Stage

'Alyona Kistenyova has a lovely soprano voice and sang with precision and excellent tone'

Manchester Theatre Awards