Kevin & Karen Dance

Kevin & Karen Dance

Taith Fyw 2018

Archebwch Nawr

Yn dilyn eu taith gyntaf anhygoel y llynedd, a werthodd bob tocyn, mae sêr Strictly, Kevin a Karen Clifton yn ôl yn 2018 gyda sioe newydd sbon. Byddwch yn barod am daith nwydus drwy’r Walts, Cha Cha, Ffocstrot, Tango a’r Salsa. Mae’n berfformiad yn llawn egni ag alawon powld, coreograffi cyffrous a gwisgoedd disglair.

Bydd Kevin a Karen yn swyno cynulleidfaoedd wrth iddynt berfformio eu harddull anhygoel eu hunain o swyn y ddawns neuadd. Gyda chast cefnogol o ddawnswyr a band byw o 12 aelod ar gyfer y sioe, mae symudiadau dawnsio mwyaf enwog a chyffrous Kevin a Karen yn cael eu cyflwyno ar y llwyfan, gyda'u brwdfrydedd.