Kaiser Chiefs

Kaiser Chiefs

Taith y DU 2019

Archebwch Nawr

Yn dilyn y cyhoeddiad fod y band o Leeds, Kaiser Chiefs, wedi ailymuno â Polydor / Universal, maent wedi cyhoeddi rhestr o ddyddiadau ar gyfer Ionawr / Chwefror 2019.

Mae’r band wedi cyhoeddi hefyd eu bod yn ôl yn y stiwdio ac yn gweithio ar eu seithfed albwm stiwdio gyda Ben Allen, y cynhyrchydd a weithiodd ar albwm gan y band a gyrhaeddodd frig siartiau’r DU – Education, Education, Education and War.

Wedi eu ffurfio yn Leeds yn 2000, Kaiser Chiefs yw un o brif fandiau eu cenhedlaeth. Y carismatig Ricky Wilson yw prif leisydd y band, gyda Simon Rix ar y bas, Andrew ‘Whitey’ White ar y gitâr, Nick ‘Peanut’ Baines ar yr allweddellau a Vijay Mistry yn drymio. Mae'r band wedi bod yn gyfrifol am nifer o ganeuon poblogaidd anthemig megis ‘Oh My God’, ‘I Predict A Riot’, ‘Everyday I Love You Less and Less’, ‘Never Miss A Beat’ a ‘Hole In My Soul.’

Maent wedi rhyddhau senglau sydd wedi cyrraedd y deg uchaf, gan gynnwys y drwgenwog ‘Ruby’, a fu’n rif 1 yn y siartiau; maent wedi ennill tair gwobr Brit a gwobr Ivor Novello am Albwm y Flwyddyn; wedi teithio â U2, y Foo Fighters a Green Day; ac wedi gwerthu 8 miliwn o albymau.