How to Train Your Dragon: The Hidden World
-

How to Train Your Dragon: The Hidden World

Tystysgrif i’w chadarnhau

-
Archebwch Nawr

Mae’r hyn a ddechreuodd fel cyfeillgarwch annisgwyl rhwng bachgen ifanc a draig ddychrynllyd wedi datblygu’n antur anhygoel gydol eu hoes. Croeso i’r bennod fwyaf rhyfeddol o un o’r ffilmiau animeiddiad mwyaf poblogaidd mewn hanes: How to Train Your Dragon: The Hidden World.

Nawr yn bennaeth ac yn arweinydd Berk ar y cyd gydag Astrid, mae Hiccup wedi creu iwtopia dreigiau llawn anhrefn. Pan mae ymddangosiad Light Fury benywaidd yn cyd-daro â’r bygythiad mwyaf y mae’r pentref erioed wedi’i wynebu, rhaid i Hiccup a Toothless adael eu cartref a theithio i fyd cudd a gredwyd oedd yn bodoli mewn myth yn unig.

Wrth i’w tynged gael ei ddatgelu, byddent yn ymladd gyda'i gilydd - hyd at eithafion y byd - i ddiogelu popeth maent yn ei drysori.

Cast: Jay Baruchel, Cate Blanchett, Gerard Butler, Jonah Hill, Kit Harington, Kristen Wiig