The Houghton Weavers

The Houghton Weavers

Archebwch Nawr

Mae’r Houghton Weavers, un o fandiau comedi/gwerin mwyaf Prydain, wedi bod ar flaen y sin gerddoriaeth wledig ers deugain mlynedd a mwy - ac mae eu rhaglen o gyngherddau yn un prysur dros ben.

Gyda doniau Tony Berry, Jim Berry, David Littler a Steve Millington, mae’r band yn diddanu eu cynulleidfaoedd gyda chymysgedd o ganeuon a hiwmor.

Ers meistroli eu crefft mewn clybiau gwerin yng ngogledd-orllewin Lloegr, maen nhw wedi mwynhau llwyddiant di-ben-draw, gyda chynulleidfaoedd dan eu sang a chefnogwyr o bob cwr o’r byd.

Mae’r Houghton Weavers wedi perfformio mewn miloedd o gyngherddau, wedi recordio mwy na 30 albwm, wedi serennu mewn cyfres radio a theledu llwyddiannus ar y BBC ac wedi ymddangos ar nifer o raglenni eraill fel diddanwyr a chyfweleion. Cyrhaeddodd “The Blackpool Belle” rif 3 yn siartiau Seland Newydd.

Mae sioe’r Houghton Weavers yn argoeli’n noson wych o ddigrifiwch a cherddoriaeth. Mae eu profiad yn y byd cerddorol a’u harddull a’u proffesiynoldeb yn sicrhau y bydd pawb yn wên o glust i glust.