Horrible Histories
-

Horrible Histories

Terrible Tudors ac Awful Egyptians

-
Archebwch Nawr

Rydym ni gyd eisiau cyfarfod pobl mewn hanes. Ond y broblem yw bod pawb wedi marw!

Felly, mae’n bryd i chi baratoi ar gyfer dwy sioe anhygoel gyda Horrible Histories yn fyw ar y llwyfan! Gan ddefnyddio actorion ac effeithiau 3D arbennig, mae'r sioeau syfrdanol hyn yn sicr o'ch cyffroi chi a'ch plant. Bydd ffigyrau a digwyddiadau hanesyddol yn dod yn fyw ar y llwyfan ac yn hedfan at flaen eich bysedd!

Terrible Tudors

O’r Horrible Henries i ddiwedd yr Elisabeth ddieflig, gwrandewch ar y chwedlau (a’r celwyddau!) am y Tuduriaid. Darganfyddwch ffawd gwragedd di-ben Harri a’i ffrae gyda’r Pab. Dewch i gyfarfod Mari Waedlyd a gweld Ed yn disgyn yn farw ar ei wely. Goroeswch yr Armada Sbaenaidd wrth iddo hwylio i mewn i’r gynulleidfa!

Awful Egyptians

O’r Pharaohs hudol i bŵer y pyramidiau, darganfyddwch ffeithiau am farwolaeth a phydredd gyda’r mymïaid creulonaf yn yr Aifft. Ydych chi’n barod am antur gyda Ramesses Fawr? A wnewch chi fentro trwy Giatiau'r Bywyd Tragwyddol? Dyma hanes yr Aifft yn cynnwys yr holl rannau brwnt!

The auditorium seems fit to combust spontaneously in an explosion of joy and excitement! ★★★★

The Times

Wholly accessible, educating, entertaining and enjoyable, HORRIBLE HISTORIES live on stage is a tour de force! ★★★★★

BBC.co.uk